Olew Gwresogi ac Olew Amaethyddol a Masnachol ar Ynys Môn

Mae G D Jones a'i Fab yn gwmni teuluol annibynnol sydd yn dosbarthu tanwyddau Olew Gwresogi, Amaethyddol a Masnachol yn cynnwys (HVO Hydrotreated Vegtable Oil) i gwsmeriaid yn Ynys Môn ac ardaloedd ehangach Gwynedd, Conwy a Pen Llŷn cynnwys Bangor, Llanberis, Caernarfon, Penygroes, Abersoch, Pwllheli, Porthmadog, Harlech, Blaenau Ffestioniog, Llanrwst, Betws y Coed, Colwyn Bay, Conwy a Llandudno.

Llun agos o un o'n lorïau

Ein nod yw ymateb i anghenion pob cwsmer gyda gwasanaeth cyflym a dibynadwy, boed yn gwmni mawr neu’n gartref teuluol, gan gynnig danfoniad y diwrnod wedyn. Cynigir, lle mae’n bosib, wasanaeth y diwrnod hwnnw i gwsmeriaid sydd heb danwydd neu sydd ar fin mynd yn brin ohono.

Rydym yn credu mai’r egwyddorion craidd hyn sydd yn bennaf gyfrifiol am lwyddiant y cwmni dros ddeugain mlynedd o wasanaeth a bod parhau i’w cynnal yn sicrhau y byddwn yn llwyddo i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid yn y dyfodol.

Get Instant Quote

  1. 1

    Cofrestru

    Creu enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i’r safle

  2. 2

    Creu Eich Cyfrif

    Rhowch eich manylion bilio a chyflenwi neu rif eich cyfrif a côd post yn unig os ydych yn gwsmer gyda ni’n barod.

  3. 3

    Cael Pris

    Derbyn pris ar-lein yn syth yn seiliedig ar eich cyfeiriad cyflenwi.

  4. 4

    Dewisiwch Ffurf Taliad

    Talwch gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio secure server neu dalwch gan ddefnyddio cytundeb debyd uniongyrchol cyfredol neu ar gyfrif i gwsmeriaid presennol.