Amdanom Ni

Sefydlwyd y cwmni yn 1968. Bryd hynny roedd yn fusnes masnachu glo yn iard nwyddau rheilffordd yng Ngaerwen lle roedd glo yn cael ei gyflenwi 6 niwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. Fe gafodd y cwmni enw da yn fuan am gyflenwi nwyddau o safon uchel ac am ddarparu lefel gwasanaeth uchel. Roedd ei gwsmeriaid, yn eu tro, yn argymell y cwmni i eraill.

Llun agos o ochr un o'n lorïau

Er mwyn ymateb i’r lleihad a welwyd yn y defnydd o lo i gynhesu cartrefi yn y 1990au ac i fodloni anghenion newydd ei gwsmeriaid, fe benderfynodd y cwmni fyned i’r fasnach Olew Gwersogi yn 1998 a phrynwyd tancar pedair olwyn.

Llenwi tanc olew cwsmer

Unwaith eto, lledaenodd enw da y cwmni am wasanaeth a gwerth am arian/brisiau cystadleuol ac erbyn heddiw mae fflyd o 6 cherbyd yn barod i gyflenwi tanwydd i'r cwsmeriaid.

Get Instant Quote

  1. 1

    Cofrestru

    Creu enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i’r safle

  2. 2

    Creu Eich Cyfrif

    Rhowch eich manylion bilio a chyflenwi neu rif eich cyfrif a côd post yn unig os ydych yn gwsmer gyda ni’n barod.

  3. 3

    Cael Pris

    Derbyn pris ar-lein yn syth yn seiliedig ar eich cyfeiriad cyflenwi.

  4. 4

    Dewisiwch Ffurf Taliad

    Talwch gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio secure server neu dalwch gan ddefnyddio cytundeb debyd uniongyrchol cyfredol neu ar gyfrif i gwsmeriaid presennol.